Imágenes de página
PDF
ePub

lafur, a newid pabell ddaearol am dŷ gwell a thragywyddol yn y nefoedd. Ei amynedd a'i ymroddiad dan ei gystudd oeddynt amlwg. Un diwrnod, pan ydoedd yn ei drwm glefyd, daeth ochenaid o'i enau:-sylwodd yn fuan, gyda blinder," Paham y cwynaf fi? oni ddarfu i Stephan, pan ydoedd yn sefyll yn ddigryn dan y gawod gerrig, weddio dros ei ddihenyddwyr gyd â'i anadl ddiweddaf?" Cyfarfu âg angau gyd â'r fath heddwch a thawelwch ag a weddai i ddiwedd bywyd credadyn. Gwanhaodd yn raddol, hyd oni orphenodd ei yrfa Ionawr 7, 1799, yn 33 oed.

Y cyfryw oedd ymddygiad, a'r disgwyliad ag oedd yn llawenhau yspryd John Pugh, ac a lyfnhaodd ei daith i dragywyddoldeb. A efidiwn ni am ei foreuol symmudiad? A ewyllysiem ni ei ddifeddiannu ef o'r trugareddau hynny ag oedd ef yn alluog i'w mwynhau gyda llawn hyder ffydd? Na; yn hytrach, bydded i ni lawenhau ci fod wedi myned o fyd o brofiad a gofidiau i un lle mae pob deigr wedi ei sychu ymaith; lle nid oes na gofidiau, peryglon, profedigaethau, na themtasiynau mwy:-wedi myned i'r orphwysfa-gorphwysfa na bydd iddi gythrybliad mwy, ond gan floedd yr Archangel yn y dydd diweddaf, pan yr adgyfodir y meirw ac y newidir y byw.

Marwolaeth perthynasau a chyfeillion, os oeddynt yn wir grefyddol, ydynt yn adnewyddu yn ein hyspryd goffadwriaeth o'u hyfforddiadau duwiol; ac hefyd yn creu y teimladau bywiog-y prydferthwch a'r caredigrwydd y grasusau a'r rhinweddau ag oedd yn addurno eu bywyd. Ond, fy nghyfeillion, a fydd i'r coffadwriaethau deffrous hyn ddiflannu mewn galar anfuddiol? Na atto Duw! Fe ddylai prydferthwch y saint ddeffroi ein hyspryd er gwellhad ac adeiladaeth: nyni a wyddom o ba le y tarddasant, nyni 2 wyddom mai yr Arglwydd Iesu Grist sydd yn hau yr had anllygredig yn y galon, ac yn dwyn ym mlaen y ffrwythau Paradwysaidd hyn. Cymmysgwn, gan hynny, ein coffadwriaeth am dano ef, a'n gweddiau at Dduw, ar iddo ef faethu yn ein calonnau yr un had anllygredig; fel y byddo i ni fod yn ddilynwyr iddo ef, megis ag yr oedd ef i Grist; ac, megis yntau, fod ein bywydau yn sanctaidd, a'n diwedd yn dangnefeddus,

J. J.

Y MIS IONAWR.

[ocr errors]

CAFODD y mis hwn ei enw oddiwrth Janus, yr hynaf o eilundduwiau y Paganiaid, o leiaf yn yr Ital. Darlunir ef a dau wyneb, un yn edrych yn ol, a'r llall ym mlaen, ac yn dal ffon ddraenen wen mewn un llaw, ac agoriad yn y llall. Bydded i'r mis hwn cin dysgu i edrych yn ol ar y flwyddyn a aeth heibio, gan adgofio y trugareddau lawer a dderbyniasom oddiwrth Dduw, y peryglon y diangasom rhagddynt, a'r anhawsderau a'r profedigaethau y dygwyd ni drwyddynt. Rhyfedded y pechadur anystyriol hir-ymaros ac amynedd Duw, na thòrwyd ef i lawr yn nghanol ei ddrygioni; a dysged y Cristion i foliannu y nerth dwyfol a'i dygodd ef hyd yma ar ei bererindod. A bydded i ni edrych ym mlaen, gan ymddiried yn y gras hwnnw, yr hwn a'n cadwodd ac a'n bendithiodd ni hyd ya

hyn; a bydded i ni ymegnio fwy fwy i ddwyn ym mlaen ogoniant Duw, ac i rodio yn ddiesgeulus, gan brynu yr amser, a chan gofio, pan ddarfyddo dyddiau a misoedd a blynyddoedd, fod i ni orphwysfa yn y nefoedd.-Edryched y pechadur hefyd ym mlaen, a bydded ddoeth, tra parhao lamp ei cinioes i losgi, rhag iddi gael ei diffoddi, ac yntau, yn ammharod, gael ei daflu i'r tywyllwch eithaf.

R. AB G,

CYFARCHIAD AR Y FLWYDDYN NEWYDD.

FY ANWYL Gyfeillion,

DYMA flwyddyn arall wedi myned ymaith na welir mo honi byth mwy. Ond nid felly y gweithredoedd a wnaethom, pa un bynnag ai da ai drwg: eithr y mae dydd yn dyfod pan y bydd yn rhaid eu had-olygu. Bydded i ni, ynte, ar ddechreu y flwyddyn hon, droi ein meddyliau oddiwrth ofalon a phethau y byd hwn, i ymddiddan ychydig â'n calonnau ein hunain, fel y byddom y dydd hwnnw yn gymmeradwy ganddo ef.

Ar yr amser yma o'r tymhor y mae yn arferol gan fasnachwyr chwilio a chyfartalu eu cyfrifon tymhorol, fel y canfyddent eu hynnill a'u colled. Y mae hyn yn fuddiol; oblegid, fe ddywed Solomon, "Edrych yn ddyfal ar dy anifeiliaid, a gofala am dy braidd." St. Paul a'n dysg i " arferyd a'r byd hwn, ac na fyddwn yn ddiog mewn diwydrwydd, ac na fyddwn yn nyled neb o ddim, ac i ddarbod dros yr eiddo, yn enwedig ei deulu."

Os ydyw, gan hynny, yn ddyledus arnom gael cydwybod ddirwystr tu ag at ddynion; y mae ynte, yn sicr, yn fwy o ddyled arnom i chwilio ein hunain, fel y gwybyddem beth yw ein sefyllfa o flaen Duw-a ydym yn gyfoethog gyd ag ef; a ydym "wedi ein diosg o'r hen ddyn;" ac a ydym ni yn addas i gael" rhan o etifeddiaeth y saint yn y goleuni:"-hyn yw yr un peth angenrheidiol." Wrth i ni ofalu am bethau y byd hwn yn unig, yr y'm yn annuwiol: ond, os nyni a ofalwn am bethau ysprydol yn fwy na phethau bydol, a phethau bydol mewn cyfeiriad tu ag at bethau ysprydol, yr ydym yn gwneuthur yn ol ewyllys ac ordinhad Duw. Ac fe fydd ein ymddygiad, os yn y modd yma, yn gymmeradwy, a'n gorchwylion yn fendithiol yn y byd hwn a'r nesaf.

Amlwg ddigon ydyw fod llyfr arall, gyd â'n dydd-lyfr, a'n gorseddlyfr, &c, yn fwy teilwng o'n ystyriaeth; fod rhyw beth arall yn fwy gweddus i ni roddi ein bryd arno nag ydyw ein masnachdai, &c. Nyni a ddylem yn ddifrifol chwilio yr ysgrythyrau; fel y gwybyddom beth yw ein cyflwr;-profi ein hunain, a chadarnhâu "ein hunain, ar sail dda erbyn yr amser sydd ar ddyfod;" pa drysorau sydd gennym yn y nefoedd, a ydynt hwy yn ddigon i ni gael gafael ar fywyd tragywyddol?

Y mae gan Dduw lyfr o goffadwriaeth, ym mha un y mae cof-restr gywir o fywyd pob un; ac fe gaiff ei agor yn nydd y farn, pan fernir pawb yn ol yr hyn ag sydd yn ysgrifenedig ynddo: yn gyfattebol i hwn ydyw y gydwybod, yr hon y mae Duw, trwy ei fawr ddoethineb a'i raslonrwydd, wedi ei phlannu yn ein mynwes. Os nyni a chwiliwn lyfr y gydwybod, gyda rheolau digyfeiliorn yr ysgrythyrau, yna y gallwn wybod beth sydd yn berthynol i ni yn

ysgrifenedig yn llyfr coffadwriaeth Duw: ac os i'r manylrwydd yma y gwnawn chwanegu gweddi ddifrifol, ayni a gawn ein cadw rhag pob drwg, a'n tywys yn sier i wir wybodaeth o honom ein hunain; fe fydd gwybodaeth o hyn yn fwy o werth i ni na dim a allai ddyfod i'n meddiant. O na fyddai i'r cyfarchiad byr hwn ein tywys ni oll, fel y caffom feddiant o honi! A oes rhyw un yn cilio oddiwrth y gwaith yma, o herwydd ei fod yn meddwl fod ei gyflwr yn rhy ddrwg? Gwybydded nad ydyw yn anwelladwy, os efe a ymofyna yn ddioed gyda gwir edifeirwch a ffydd yn yr Arglwydd Iesu Grist, ac at y Duw grasol, yr hwn sydd wedi dywedyd nad ydyw yn "ymhoffi ym marwolaeth yr annuwiol; ond troi o'r annuwiol oddiwrth ei ffordd, a byw."

Yn awr, ddarllenydd, yr wyf yn erfyn dy ymroad; pa ddefnydd a wnai o hyn? a droi di hwn ymaith yn ddiystyr? neu, a gaiff efe dy ddifrifol ystyriaeth? Llawer tro y cymmeraist rybuddion Duw yn ysgafn; ai yn yr un modd y gwnei â hwn hefyd? Bydd ofalus; ni saif Duw byth yn rhybuddio ac yn bygythio. Llaw dial sydd wedi ei chodi i fynu, a dyrnod sydd yn dyfod, a gwae ar yr hwn y disgynno. "Pwy a saif o flaen ei lid ef? a phwy a gyfyd yn nghynddaredd ei ddigofaint?"

Lonewr 2, 1827.

LLYTHYR PERERIN.

J. Y.

MR. GWYLIEDYDD,Ni byddai o fawr fudd i chwi, na'ch darllenwyr, wybod paham y bum cyhyd heb eich cyfarch; ac am hynny ni fydd i mi dreulio eich amser i wrando ar fy esgusodion na'm hamddiffyniad;-dagennyf po goreu y bo i chwi a'ch darllenwyr, a'm holl gydwladwyr. Bendith Dduw ar bob ymdrech i wneuthur daioni yn ein plith; a brysied y dyddiau pan y bo pawb, o'r mwyaf hyd y lleiaf, yn adnabod yr Arglwydd. Yr wyf, Mr. Gwyliedydd, yn gweled fod dyddiau fy mhererindod yn darfod, a dydd angau a barn yn cyflym agoshau; am hynny, y mae galwad uchel arnaf i ystyried tu a pha wlad yr wyf fi yn teithio. A myfi yn myfyrio ar y pethau hyn, diweddodd yr wythnos olaf yn y flwyddyn 1826, a chaniattawyd i mi weled y Sabboth olaf o'r flwyddyn uchod; ac yn y pryd arferol aethym yn ol fy arfer i'r Eglwys; ac ar ol darllen y Gwasanaeth, ar yr hyn ni sylwaf y tro hwn, pregethodd yr offeiriad oddiwrth y rhan gyntaf o'r 26ain adnod o'r 4 bennod o'r Diarhebion, bethau cymmwys iawn i'm cyflwr i; a chan fy mod yn barnu y gallent fod yn fuddiol i alw eraill i ystyried, wele ran o honynt at eich gwasanaeth. Geiriau y testun oeddynt fel y canlyn:-" Ystyria lwybr dy draed." Wedi i'r pregethwr wneuthur rhai sylwadau ar Lyfr y Diarhebion yn gyffredinol, daeth at y testun, a dywedodd ei fod yn llefaru yn gyffredin wrthym o ran amser; canys nid yw yn dywedyd, ystyria heddyw, neu y foru, &e. ond ystyria, a hynny bob amser, fel pe dywedasai, Etto, eb efe, er fod hyn yn ddyledswydd arnom bob amser, y mae amseroedd ag y gellir dywedyd yn neillduol, "Ystyria lwybr dy draed;" a diau fod diwedd un flwyddyn, a dechren un arall, yn un o'r amseroedd hynny; os felly, eb efe, galwaf arnoch heddyw (Rhagfyr 31) bawb yn gyffredinol, i ystyried llwybr eich traed,

Yn laf, Ystyried pob un enw llwybr ei draed. Ystyria pa enw y mae Gair Duw yn ei roddi ar y llwybr hwn;-duwiol ai annuwiolrhinweddol ai anrhinweddol-da ai drwgcyfreithlon ai anghyfreithlon-buddiol ai anfuddiol, &c.

Yn ail, Ystyria effeithiau llwybr dy draed:-1. Arnat ti dy hun. Nid oes neb agos heb wybod am rym arferiad, mai anhawdd yw torri trwyddo; mynych rodio yn yr un lle a wna lwybr; mynych gyflawni yr un pethau a wna arfer, ac arfer a wna reddf, a greddf sydd raff dair cainc, yr hon ni ellir yn hawdd ei thòri, Am hynny, un o effeithiau llwybr dy draed arnat ti yw, dy gadarnhau di yn y Hwybr hwnnw, pa un bynnag ai drwg ai da yw:"A newidia yr Ethiopiad ei groen, neu y llewpard ei frychni? felly chwithau a ellwch wneuthur da, y rhai a gynnefinwyd â gwneuthur drwg." Jer. 13. 23. "Hyfforddia blentyn ym mhen ei ffordd; a phan heneiddio nid ymedy a hi." Diar. 22. 6. Y mae profiad pob dyn yn tystiolaethu, ac yn cadarnhau yr un gwirionedd.-2. Ar dy enw yma yn y byd. Llwybr dy draed a bar i'th enw arogli yn beraidd, neu yn ddrewedig, yn yr ardal yr wyt yn byw ynddi. Os drwg yw y llwybr, drwg yw yr enw; os da fydd y llwybr, da fydd yr enw: effaith llwybr dy draed yw dy enw, neu, llwybr dy draed sydd yn rhoddi i ti enw. Pe gofynid, pwy a roddes yr enw atgas hwn ar y dyn a'r dyn? pa enw? y meddwyn, y lleidr, y godinebwr, y tòrwr Sabboth, y tyngwr, y celwyddwr, y twyllodrus, yr anghyfiawn, y treisiwr, y cybydd, y diog, yr afradlon, &c. pwy a roddes yr enw, neu yr enwau hyn arnynt, meddwch chwi? pwy, ond llwybr eu traed. A phe gofynid gan bwy, a pha fodd, y rhoddwyd yr enw da hwn i'v dyn a'r dyn? gellid yn hawdd atteb, llwybr ei draed a roddes yr enw hwn iddo. Pa fodd y gelwir hwn a hwn yn wr da, duwiol, cyfiawn, sanctaidd, trugarog, cymmwynasgar, ffyddlon, cywir, cymmedrol, elusengar, crefyddol? &c. Wel, llwybr ei draed a barodd ei alw felly; dyma un arall o effeithiau llwybr dy draed ar dy enw. Os wyt yn ofni y cyntaf, ac yn dymuno yr ail," Ystyria lwybr dy draed." Yn 3ydd, Ar dy gymmydogion. Cofia y mae Hwybr dy draed di yn cadarnhau breichiau duwiolion neu annuwiolion. "Llewyrched felly eich goleuni ger bron dynion, fel y gwelont eich gweithredoedd da chwi, ac y gogoneddont eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd." Mat. 5. 14. Enw Duw, o'ch plegid chwi, a geblir ym mhlith y Cenhedloedd." Rhuf. 2. 24. Gwelwch yma effeithiau llwybr y traed ar eraill; yn gyffelyb mewn rhyw, er nad mewn graddau, fe allai, y gwna llwybr ein traed ninnau: am hynny, ystyria lwybr dy draed. Fe allai y dywed rhyw un am yr ardal hon, neu arall, fel hyn, neu yn y gwrthwyneb, y mae annuwioldeb yn ben-uchel a blodeuog ynddi; y tyngwyr, y cablwyr, y meddwon, y godinebwyr, y-lladron, y torwyr Sabboth, a'r cyfryw, yn aml a lluosog ynddi: ond am dduwioldeb a grym crefydd, o braidd y gellir eu canfod yn yr ardal; ychydig ac anaml ydyw y gweddiwyr, y cymmunwyr, y ffyddloniaid, y cyfiawnion, y Cristionogion mewn gwirionedd. Ystyria O ddyn yr hwn wyt yn barnu, breichiau pa un o'r ddau fath bobl hyn y mae llwybr dy draed di yn eu cynnal. Cofia, y mae llwybr dy draed di yn pwyso yn rhyw ben i glorian yr ardal yr wyt yn byw yuddi:-yr oedd y ffigysbren ddiffrwyth, ym mhlith pethau eraill, yn diffrwytho y tir, Luc 13. 7. Felly y mae llwybr traed pob un o

honom ninhau, er niwaid neu lesâd i eraill: " Ystyria lwybr dy drued."

Yn 3ydd, Ystyria ddiwedd llwybr dy draed. Y mae pob llwybr yn arwain i ryw le; felly y mae llwybr dy draed dithau yn arwain i fywyd, neu i farwolaeth dragywyddol; i ogoniant, neu i warth tragywyddol;-y" llwybr cul yn arwain i'r bywyd," yr un llydan "yn arwain i ddistryw." Ystyria, y mae dydd yn dyfod yn yr hwn y telir i " bob un yn ol ei weithredoedd:" "sef i'r rhai trwy barhau yn gwneuthur da, a geisiant ogoniant, ac anrhydedd, ac anllygredigaeth; bywyd tragywyddol: Eithr i'r rhai sydd gynhenus, ac anufudd i'r gwirionedd, eithr yn ufudd i anghyfiawnder; y bydd llid a digofaint: Trallod ac ing ar bob enaid dyn sydd yn gwneuthur drwg." Rhuf. 2. 6, 7, 8, 9. "Ystyria lwybr dy draed." Wedi dywedyd fel hyn wrth bawb yn gyffredin, cymmwysodd y pregethwr y geiriau at ddynion mewn galwedigaeth a chyflyrau neillduol: a dechreuodd, gan alw arno ei hun fel Gweinidog, i ystyried llwybr ei draed ym mhlith a thu ag at y bobl yr oedd yn gweinidogaethu yn eu plith; pa enw yr oedd Gair Duw yn ei roddi ar y llwybr yr oedd efe yn rhodio ynddo; wrth ba enw y gellid galw llwybr ei draed ef ar y Sul ac yn yr wythnos-yn yr areithfa (pulpit ae allan o hono; ydoedd efe yno yn iawn gyfrannu gair y gwirionedd;" ac a ydoedd efe yn "ensampl i'r ffyddloniaid, mewn gair, mewn ymarweddiad, mewn cariad, mewn yspryd, mewn ffydd. mewn purdeb." 1 Tim. 4. 12. Pa effeithiau yr oedd llwybr ei draed ef yn gael ar eraill; eu hannog i'r da, neu ynte dramgwyddo y gwan, trwy bethau cyffredin ynddynt eu hunain, a chadarnhau anystyriol yn ei anystyriaeth, &c.-Yn nesaf, galwodd ar y gyunulleidfa, i ystyried llwybr ei thraed tu ag at a cher bron ei gweinidog; ydoedd llwybr eu traed, fel cynnulleidfa, y cyfryw ag oedd Gair Duw yn ei gyfreithloni, ac yn ei alw yn dda a rhinweddol? ydoedd y cyfryw ag ydoedd yn cynnal breichiau ei gweinidog, ac yn ei annog i fyned yn y blaen ym mhob peth da? Neu, ynte, ydoedd hi y cyfryw ag yr oedd Gair, Duw yn ei heuog-farnu? ac ydoedd hefyd fel pwysi o blwm yn tynnu breichiau ei gweinidog i lawr, ac yn lladd ei yspryd?

66

yr

Yn 3ydd, Cymmwysodd y geiriau at bennau-teuluoedd; a galwodd ar bob un o honynt i ystyried llwybr ei draed yn, a thu ag at, ei deulu; pa fath ydoedd? a pha effeithiau yr oedd yn debyg o gael ar ei deulu ef? Pa beth yr oedd Gair Duw yn ei ddywedyd am y cyfryw ymddygiad o'r eiddynt hwy yn, a thu ag at, eu teuluoedd? A ellid dywedyd, wrth sylwi ar lwybr eu traed hwy yn eu tealu, eu bod hwy o'r un yspryd a Josuah, yr hwn a ddywedodd, “ Myfi aʼm tylwyth a wasanaethwn yr Arglwydd." Jos. 24. 15. Neu, ynte, a yw yn llefaru gyda Pharaoh, ac yn dywedyd, " Pwy yw yr Arglwydd, fel y gwrandawn i ar ei lais." Exod. 5. 7.

Yn 4ydd, Cymmwysodd y geiriau at wyr a gwragedd; a galwodd ar bob un o honynt i ystyried llwybr eu traed y naill tu ag at y llallpa un a ydoedd y cyfryw ag yr oedd Gair Duw yn ei gyfreithloni, neu, ynte, yn y gwrthwyneb? pa beth yr oedd y Gair yn ei ddywedyd am y fath fywyd a'u bywyd hwy y naill tu ag at y llall?

Yn nesaf, Galwodd ar rieni a phlant i ystyried llwybr eu traedpa un a ellid dywedyd am y llwybr hwnnw yr hyn a ddywedodd

« AnteriorContinuar »