Imágenes de página
PDF
ePub
[ocr errors]

Y RHAGYMADRODD.

YN gyttun â'n harfer flynyddol, dymunem yn awr, ar ddiwedd blwyddyn, gyfarch gwell i'n cyfeillion a'n darllenwyr, a'u hannerch gyd âg adnewyddiad o'n difrifaf ddymuniadau am eu llwyddiant bydol ac ysprydol.

Pa fodd y darfum ni atteb w disgwyliadau, yn ystod y flwyddyn ddiweddaf, nid gweddus i ni farnu; a thebyg yw, mai ni fydd yr olaf i glywed y ddedfryd, os bydd yn anfelus i'n teimladau ein hunain. Teg, er hynny, fyddai i'r saw a ymdderchafo i eisteddle barn, synied ychydig ar y rhwystrau sydd yn anwahanadwy oddiwrth Gyhoeddiad Misol-rhwystrau, y rhai, fe allai, nid yw llawer, er hynny, unwaith wedi eu hystyried.

[ocr errors]
[ocr errors]

Y mae y sawl a ymrwymo i wasanaeth meistradoedd lawer, wedi anturio ar ddyledswyddau y rhai ni ŵyr neb, ond y sawl a'u profasant, eu cyflawn anhawsdra. Pan waeddo un "Dos ar frys," bydd un arall yn crochlefain " Tyred yn ebrwydd;" a'r hyn a foddhao y naill, a fydd yn sicr o anfoddhau y llall. Felly ninnau, pan ddymuņem ennill flafr PAWB, buan y profwn mai angbenfil mil-aelodawg yw PAWB, a phrin y ceir dau, o'r mil-aelodau hyn, yn cwbl-gyssoni â'u gilydd yn eu dewisbethan a'u meddyliau. Y cyfansoddiadau sydd yn ddiddan gan y naill, ydynt yn hollol ddiflas, ac, fe allai, yn niweidiol, yn ngolwg eraill. Gwelir, hefyd, er nad yw pob aelod neillduol ond un o'r mil-aelodau, fod tueddfryd digywilydd ynddo i honni iddo ei hun enw cyffredin yr anghenfil cyfan, sef, PAWB. Yr ydwyf fi," medd un," yn diflasu ar gynnifer o bapurau duwiniaethol, ac ysgrifeniadau pruddaidd ; ac felly y mae PAWB, hyd y glywaf fi." "Moeswch i ni ychwaneg o hanesion difyr, chwerthinus, i ddiddanu ein hysprydoedd," medd y bobl ieuainge; " dyna," meddant, " ewyllys PAWB." "Rhoddwch, attolwg, ychwaneg o hen hanesion a defodau yr oesoedd gynt," medd yr hynafiaethydd, yr ydych yn ddiffygiol "Gadewch hanesion a mewn hynafiaethau; a dyna farn PAWB am danoch." defodau gynt i'w hoesoedd priod," medd un arall, "hiraetha PAWB am gael hanesion yr oes hon-rhyfel y Tyrciaid a'r Groegiaid, ymrysonau Eisteddfod Tal y Cafn, ac ymddadleuon ynghylch Cyfarfodydd Cymreigiawl." "Er mwyn dyn,” medd y prydydd, "rhoddwch bob annogaeth i goleddwyr yr Awen; pwngc yw hwn, y mae PAWB yn cyttuno arno." "Wftichwi,” medd ein cyfeillion lled Seisnigaidd, " y mae eich Cyhoeddiad yn llawn o rigymau prydyddawl diles ac annealladwy ; y mae yr yspryd awenawl yn ymbalfalu mor gloff a thrwsgl, o herwydd caethder y mesurau, fel pe bai y dyn cyflymaf yn y wlad wedi ei lyffetheirio, law a throed; a dyna farn PAWB." Clywsom am rai yn barod i dyngu ar y pedwar mesur ar hugain, nad oes

[ocr errors]

dim barddoniaeth orchestawl allan o'r mesurau hynny—mai nid caethiwo, ond, yn hytrach, cymmorth ehediadau y meddwl y maent-ac y mae hyn yn oleu eglur i BAWB. "Wel, haeriad yw hwn y gwel PAWв ei gyfeiliorni a hanner llygad," medd un arall; "pa sut y gall meddyliau awenol ymehangu yn ardderchoccach pan gyfyngir hwynt i eiriau o gyffelyb adsain? Pa beth yw egwyddor gwir farddoniaeth? ai cynghanedd sillafau, neu amgyffrediadau meddyliawl, ac ehediadau goruchel synwyr? Ai wedi llyffetheirio ei draed, a rhwymo ei adenydd, y bydd yr eryr yn ehedeg i entrych awyr, ac yn syllu ar yr haul yn ei nerth? PAWB, PAWB, a welant ffolineb y daliadau gwrthwynebol."

Ni ddichon i ni fynegi, a phrin iawn y medr y darllenydd ddychymmyg, faint fu ein trafferth i foddhâu y PAWB hwn-faint a lafuriasom i wybod ei feddwl a'i ddewisiadau a chymmaint y siommwyd ni ar ol y cwbl. Yn ol hanes rhai o'n cyfeillion, nid oedd neb mor hawdd ei weled, a'i ddeall, a'i foddhâu hefyd, a Mr. PAWB-gwrthddrych yw, y gellid ei gyfarfod ym mhob tŷ, ac agos ar bob croesffordd; ac, etto, pan gychwynem tu ag atto, gan ddisgwyl ein haddysgu ganddo, ffoi a wnae fel ellyll-dân y nos oddi wrthym, a gwawdio ein hymgais. Ped hyspysasid ei breswylfa i ni yn gwbl sicr, pa un bynnag ai pell ai agos, ai yn neuadd y pendefig, neu gaban y cardottyn; yn ogof y mynydd-dir, neu yn lluest y bugail; ni phetrusasem rodio yn droednoeth tu ag atto, a deisyfu ei farn wirioneddol er hy fforddio ein hymddygiad rhagllaw. Dim, ar ein gair gwir, dim yn gyttun â chydwybod dda ni pheidiasem a gwneuthur er rhyngu bodd iddo. Tybiasom, unwaith, mai buddiol fyddai gorchymyn i'n hargraphydd hyspysu, ar gefn y Gwyliedydd, ein parodrwydd i roddi y wobr helaethaf yn ein gallu i'r sawl a'n dysgent i ddeall a boddhâu PAWB. Eithr pan glywsom am yr Eisteddfod glodwiw sydd i'w chynnal yn Ninbych, a darllen ei haelionus gynnygiadau ym mhob rhyw wybodaeth a chelfyddyd ganmoladwy, barnasom mai gweddusach o lawer, megis hefyd mai ardderchoccach y rhodd, fyddai gadael i'r Cyfeisteddwyr gynnyg un o'u harian-dlysau gwerthfawroccaf am yr hyfforddiant goreu i foddhâu PAWB. Os ni lwydda y Gwladgarwyr hybarch, megis, yn ddiau, yr ymdrechant, ac yr haeddant, i wneuthur hyn eu hunain yn yr Eisteddfod nesaf, pa fawrlles a wnant trwy sicrhau y wybodaeth hon i Gyfeisteddwyr Eisteddfodau eraill sydd i ddyfod? Felly y ceir gweled ym mhob Eisteddfod ddyfodadwy BAWB yn dychwelyd adref yn foddhâus, y Datgeiniwr Cymreig a'r Canwr goludog Seisnig, y Telynor dall a'r Cerddor pellenig, y Cymro uniaith a'r Sais mursenaidd. Pan ddigwydd hyn, bydd achos i obeithio y llwydda Cyhoeddwyr Misol hefyd i wneuthur eu hysgrifeniadau hwythau yn gyfryw ag a foddhao BAWB.

Yn y cyfamser, deisyfir ar y darllenydd gymmeryd yn fwynaidd yr hyn a amcanwyd er ei les a'i ddiddanwch. Y CYHOEDDWYR.

PENTREF Y GWYLIEDYDD,
Rhagfyr 1, 1827.

IONAWR, 1827.

COFIANT AM Y PARCHEDIG JOHN PUGH, A. C. Gynt Gweinidog Plwyf CLYNOG FAWR, yn ARFON.

MEWN dydd o drallod a chabledd, megis y presennol, y mae yn ddyledswydd ar bob un sydd ganddo gariad at grefydd ei wlad, ac at ei gyd-genedl, ddyfod ym mlaen, fel dyn ac fel Cristion, i ddwyn ei dystiolaeth yn erbyn yr egwyddorion hynny o anghrediniaeth a therfysg ag sydd megis llif-ddyfroedd yn bwgwth gorchuddio pob peth sydd anwyl gennym. Hyderir fod amryw yn barod i sefyll yn erbyn llif y werin derfysglyd:-rhyw Phinees a saif rhwng y byw a'r meirw nes attal y pla. Eraill, a fu yn gwylio, yn gweddio, ac yn ymdrechu am heddwch, ydynt, trwy ddwyfol drugaredd, wedi cael noddfa rhag y dymhestl, eisoes wedi myned i'r arch, a chyrhaedd yr orphwysfa nefol. Bydded i ni chwilio ychydig i ymddygiad un o'r rhai hyn, yr hwn, er yn farw, sydd yn llefaru etto:-a bydded i ni ymdrechu i gasglu oddiwrth hyn, beth a fuasai ei farn ef, a'r modd i ninnau ganlyn ei siampl, yr hwn, nid yn unig a "ofnodd Dduw, ond a anrhydeddodd ei frenhin."

Y gwr ieuangc hwn, a grybwyllir am dano, ydoedd y Parchedig John Pugh, Gweinidog yr Efengyl; yr hwn, am ystod fèr ei oes, a fu ffyddlon a diwyd yn cyflawni gwaith ei weinidogaeth. Efe ydoedd y nawfed plentyn i Hugh Roberts, Ffridd Fedw, Plwyf Llanfihangel y Traethau, Swydd Feirion, ac a anwyd yr 17eg o Orphenaf, 1765. Bwriadwyd yn foreuol iawn ei ddwyn i fynu i'r weinidogaeth yn yr Eglwys Sefydledig. I'r perwyl hyn, wedi dysgu o hono egwyddorion dechreuad gwybodaeth, yn yr ysgolion cymmydogaethol, anfonwyd ef i Fottwnog yn Lleyn: ond, y'mhen ychydig amser, dychwelodd adref yn glaf; a bu yno amryw flynyddau yn syml ac astud. Yn Mehefin, 1786, aeth i ysgol Beaumaris, dan y Parch. R. Thomas, yr hwn yn bennaf a'i hyfforddodd yn yr ieithoedd gwreiddiol. Yn Rhagfyr, 1788, aeth yn aelod o Goleg Iesu yn Rhydychain. Ei ymarweddiad bob amser oedd serchog ac addfwyn; eithr y pryd hyn effeithiwyd yn fwy difrifol ar ei feddwl at wir gynhyrfiad crefyddol. Pan yr ydoedd ei ddiwydrwydd at gyflawni rhannau allanol addoliad yn ychwanegu, yr oedd hefyd yn fwy hunan-ymwadol, a'i yspryd wedi ei addurno yn fwy eglur ag ewyllysgarwch ac ufudd-dod efengylaidd.

Gyd a'r egwyddorion hynny ag oedd ef feddiannol o honynt, yr ydoedd yn hyderus i ddechreu ar ei orchwyl cyhoedd: efe, gan hynny, yn y flwyddyn 1792, a gymmerodd y radd o Wyryf yn y Celfyddydau; ac a ordeiniwyd yn Ddiacon, Medi 29, 1792. O'r JONAWR, 1827.

A

1

pryd hwnnw, penderfynodd ymwrthod â gwagedd a ffolineb y byd hwn; a gadael amryw bethau, ag yr edrychai arnynt o'r blaen ond pethau dibwys, gan ymroddi yn ffyddlon i waith y weinidogaeth. Gwasanaethodd y deuddeg mis cyntaf o'i weinidogaeth gyda zel ddifrifol yn Nghriccaeth, a'r lleoedd perthynol iddi, dan y gwr enwog hwnnw, y Parch. David Ellis, A. C. Derbyniodd urdd offeiriad-| aeth yn y flwyddyn 1793; ac a symmudodd, ar farwolaeth ei anwyl gyfaill, Mr. Ellis, yn y flwyddyn 1795, i Glynog Fawr, yn Arfon. Yn Nherm Mihangel, 1796, cymmerodd y radd o Athraw yn y Celfyddydau.

Dwys ystyriodd ei sefyllfa megis Gweinidog yr Efengyl; ond yr oedd yn ymhyfrydu wrth gyflawni ei ddyledswydd bwysfawr. Teimlasai yr Arglwydd yn Feddyg tosturiol a thrugarog i'w enaid; a'i brif amcan ydoedd arwain eraill at y Meddyg y cawsai ef y fath gysur a lleshad oddi wrtho. I'r diben hwn y gwnai yn hŷf ddinoethi ac argyhoeddi pechod. Yn felas hyfryd y pregethai efe Grist croeshoeliedig; yn ddwys a sylweddol y gwrth-brofai heresiau a chyfeiliornadau ei wrandawyr; ac yn daer wresog yr annogai hwynt i fuchedd dduwiol. Llarieidd-dra a thiriondeb ei yspryd a arddangosant i bawb: er mor eglur y cyhoeddai gennadwri ei Feistr, ac er mor hyf y ceryddai bechod, nid oedd o dymher ag oedd yn caru gwrthwynebiad, nac o gyffroad digofus; ond, oddiar alwad ei ddyledswydd, yr hyn sydd uwchlaw pob bydol ystyriaethau, efe a lefarai y gwir, a hynny o gariad:-efe a deimlai ei fod yn oruchwyliwr ar ddirgeledigaethau Duw, ac nid anghofiai un amser fod yn angenrheidiol ar oruchwyliwr ei gael yn ffyddlon. Rhagoriaeth arall yn ei swydd offeiriadol ydoedd ei hunan-ymwadiad; tu ag at ei gynnulleidfa yr oedd ei ymddygiad yn dywedyd yn amlwg, "Nid ydwyf yn ceisio yr eiddoch chwi, ond chwychwi."

Yn y flwyddyn ddiweddaf o'i fywyd, cyhoeddodd hyfforddiadau i feithrin plant, sef, Pregeth ar Eph. 6. 4. "Maethwch hwynt yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd." Y cyfryw oedd ei ddyfal ddiwydrwydd yn gwneuthur daioni, mor wresogfryd dros achos Duw, a llafurus er lleshad pechaduriaid-fel na threuliai ddim amser yn ofer. Cynnydd ei bobl mewn duwioldeb, trwy iawn gyfrannu iddynt air y gwirionedd, oedd ei brif ofal; a'u llwyddiant ysprydol fyddai ei gysur pennaf. Yn ol hynny y byddai ei ymddygiad cyhoeddus a chyffredin, ac nid llai rhagorol oedd ei ymarweddiad teuluaidd: yr oedd yn ofalus am ddangos yn ei fuchedd y prydferthwch sanctaidd hynny ag oedd ef yn ei bregethu i eraill. Cariad at Dduw, ac ewyllys da i ddynion, oedd yn cyffroi ei holl ymdrechiadau: a thra yn wresog i ddwyn ym mlaen sancteiddiad eraill, yr oedd ef ei hun o'r un penderfyniad a Josua: "Ond myfi a'm tylwyth a wasanaethwn yr Arglwydd."

Wrth lafurio fel hyn i gyflawni ei ddyledswydd, ei gorph yn fuan a wanhaodd (yr hwn nid ydoedd o wneuthuriad cryf). Pan oedd un o'i gyfeillion yn deisyf arno gymmeryd esmythdra a llonyddwch, "O! na;" attebai yntau," y mae gennyforchwyl mawr i'w wneuthur, a'r amser yn fyr." Oddeutu pum' wythnos cyn ei farwolaeth, yr oedd ei nerth yn darfod, a'i iechyd yn cilio, fel nad ydoedd alluog i ddilyn ei alwad mwy. Gwybu ei fod yn nesâu i'r "tŷ rhag-derfynedig i bob dyn byw," yr hwn nid yw i'r duwiol ond gorphwysfa o

« AnteriorContinuar »