Imágenes de página
PDF
ePub

Duw am Abraham fel rhieni a phen-teulu: "Mi a'i hadwaen ef, y gorchymyn efe i'w blant, ac i'w dylwyth ar ei ol, gadw o honynt ffordd yr Arglwydd, gan wneuthur cyfiawnder a barn," (Gen. 18. 19.) ai ni ellid? Y mae llwybr traed llawer o rieni yn dda a chanmoladwy tu ag at eu plant, pe na buasai eu plant ond i fyw yn y byd hwn yn unig. Y maent yn cymmeryd llawer o boen, a thrafferth, a thraul, i'w cymmwyso i fyw yn y byd; ond am yr enaid nid oes ofal: nid oes nac ymdrech na gofal yn cael ei ddangos i'w cymmwyso i fywyd tragywyddol. Ystyried pob un lwybr ei draed tu ag at ei blant. Ystyried enw y llwybr hwnnw, ac effeithiau y llwybr hwnnw ar ei blant, a diwedd y llwybr hwnnw iddo ei hun, ac iddynt hwythau hefyd. Ystyried plant hefyd lwybr eu traed tu ag at eu rhieni;pa beth a ddywed yr Arglwydd am dano; pa un ai da ai drwg yw; pa un ai cysur ai anghysur y mae yn ei weini iddynt; a pha le y mae yn debyg o ddiweddu, &c.

Yn olaf, Cymmwysodd y geiriau at arglwyddi, eu gweision, a'u morwynion; a galwodd ar bob un o honynt i ystyried llwybr eu traed pa fath yw-a pha effeithiau y mae yn gael ar eu henwau hwy, ac ar eu cymmydogion-ac ym mha le y diwedda.

Annogodd bob un i wneuthur hyn; 1. Oblegid bod Duw yn gorchymyn i ni wneuthur hynny, &c.-2. Oblegid nad allwn adnabod ein hunain, nac ym mha gyflwr yr y'm, na thua pha le yr y'm yn teithio, heb ystyried llwybr eu traed.-3. Oblegid na wyddom pa fodd i ymddwyn, heb ystyried llwybr eu traed; ni wyddom pa un ai rhinweddol ai anrinweddol yw ein bywyd; ac ni wyddom pa un a ddylem ai gwneuthur, a pharhau i wneuthur fel hyn ac fel hyn, ai ynte esgeuluso, a gadael heibio y peth hynny, ac ymwrthod âg ef am byth. Pa fodd y diwygiwn, heb wybod ym mha bethau yr y'm yn feius? a pha fodd y gellir gwybod hynny, heb ystyried am hynny? "Ystyria lwybr dy draed."

Dyma ran o'r pethau a osododd y Pregethwr ger ein bron y tro hwn, ac os byddant yn foddion i arwain un enaid i ystyried llwybr ei draed, ac i ddiwygio yn y pethau beius, ac i ymgadarnhau yn y pethau canmoladwy a rhinweddol, gwn na ddigia y Pregethwr wrthyf am eu hanfon attoch; ac ni bydd edifar gennyf finnau eu hysgrifennu. Llwyddiant lawer i chwi Mr. Gwyliedydd, a ddymuna eich hen gyfaill.

PERERIN.

EPISTOL CYNTAF PAUL AT Y CORINTHIAID.

PREGETHWYD yr efengyl yn Corinth gan St. Paul ei hun, yr hwn a arhosodd yno flwyddyn a chwe mis rhwng y blynyddoedd 51 a 52. Aelodau yr eglwys oeddynt o ran Iuddewon, ac o ran Cenhedloedd, eithr yr olaf yn bennaf; o herwydd paham yr oedd raid i'r Apostol wrthsefyll ofer-goelion Iuddewig, a phen-ryddid cnawdol' Cenhedlig. Pan ymadawodd Paul à Chorinth, cymmerwyd ei le gan Apolos, gwr ymadroddus a chadarn yn yr ysgrythyrau, yr hwn a bregethodd yr efengyl yn llwyddiannus. Bu Aquila a Sosthenes hefyd yn ddysgawdwyr enwog yn yr eglwys hon. Ond yn fuan

gwedi ymadawiad St. Paul, aflonyddwyd undeb yr eglwys hon gan athrawon gau, y rhai a ddifenwasant ei awdurdod a bri ei weinidogaeth. Cyfododd amryw bleidiau, y rhai a ymrysonent yn ffyrnigaidd â'u gilydd, bob un am ei ddaliadau priod ei hun. Ymddadletai thai dros y seremonïan Iuddewig; ac eraill, trwy gamsynied ansawdd y rhyddid Cristianogol, dros anghymmedrolderau afreolaidd, llwyr anghyttun à phurdeb yr efengyl. Ymffrostiai rhai eu bod yn ddilynwyr Paul; ac eraill eiddo Apolos. Byddai y disgyblion cenhedlig yn cyfrannu o'r peth a aberthid i eilunod, yr hyn a fernid yn anghyfreithlon gan eu brodyr Iuddewaidd. Mor anhawdd hefyd oedd ganddynt ymwrthod â'u hymarferion nwyfus gynt, fel yr ymollyngai rhai o honynt i'r anniweirdeb ffieiddiaf, a phriododd un o honynt wraig ei dad. Eraill a wadent adgyfodiad y meirw. Ymddygai y cyfoethogion yn dra anweddaidd yn Swpper yr Arglwydd, ac eraill a gam-arferent eu doniau ysprydol. Llefarai y gwragedd yn ben-noethion yn y cynnulleidfaoedd crefyddol. Cyhuddai amryw o honynt eu brodyr o flaen y barnwyr cenhedlig, yn lle terfynu eu dadleuon trwy dangnefeddwyr Cristionogol; a byddai ymrysonau lawer iawn rhyngddynt ynghylch annyweddiaeth a phriodas.

Tarddasai peth o'r afreolaeth hyn oddiwrth athrawiaethau dysgawdwyr, a rhan fawr o hono oddiwrth ymarferion trythyll y Corinthfaid. Dywedir fod yno, mewn un deml, gyssegredig i Wener, fil o butteiniaid, caeth-ferched y deml; y rhai a ymwerthent eu hunain, er anrhydedd y gau-dduwies, i bob dyfodydd; a thrwy gyrchiad cynnifer o ddieithriaid, aethai y ddinas yn oludog. Hawdd y gwelir faint yr ymlygrai moesau y dinasyddion oddiwrth ddefod o'r fath hyn; trwy yr hon y gallent ymrollwng i chwantau nwyfus, dan esgus addoli eu duwies. I gyfryw radd y tyfasai y llygredigaeth, fel, os dywedid, yn iaith yr oes honno, mai Corinthies oedd y cyfryw wraig, yr un peth oedd hyn a phe galwasid hi yn buttain. Gan fod sefyllfa Corinth yn dra chyfleus i fasnach, yr oedd y trigolion yn eynnal cyd-gweithau ennillfawr âg amryw barthau pellenig; a phreswyliai yma nifer fawr iawn o Philosophyddion, dysgedigion, ac athrawon celfyddydau. Achos mawr, gan hynny, oedd i'r Apostol rybuddio ei ddisgyblion i ymwrthod â phutteindra ac cilunaddoliaeth; megis hefyd y balchder meddwl sydd yn deilliaw oddiwrth philosophi a gam-enwyd felly, ac uchel-ddysg dynol.

Rhoddir dau achos am ysgrifennu yr epistol hwn:

Yn laf, yr hanes a gawsai yr apostol gan rai o deulu Chloe, ynghylch ymarferion afreolus y Corinthiaid-1. Ymraniadau. I Cor. i. 11, &c.-2. Amryw anfoesau; megis, ymlosgach, cybydddod, cwynion cyfraith o flaen y barnwyr cenhedlig. Pen. v, vi.— 3. Cyd-gymmundeb eilun-addolgar â'r Paganiaid yn eu gwleddoedd. Pen. viii, x.-4. Diffyg gweddeidd-dra yn eu haddoliad crefyddol. Pen. xi. 2, 16. a xiv.-5. Halogiad Swpper yr Arglwydd. Pen. xi. 17,—34.-6. Gwadu yr adgyfodiad. Pen. xv. 12, &c.

Yr ail achos am ysgrifennu yr epistol oedd llythyr a dderbyniasai St. Paul oddiwrth eglwys Corinth, trwy ddwylaw Stephanas, Ffor tunatus, ae Achaicus, Pen. xvi. 12, &c. y'mha lythyr y deisyfasai y Corinthiaid ei gynghor yn amryw bethau, megis ynghylch Priodus Pethau a aberthusid i eilunod—Doniau ysprydol—Prophwydo, neu ddysgu eraill—a chasgliadau cardodol i'r brodyr tlodion yn Judea. FONAWR, 1827.

B

Dengys hyn y cadwai St. Paul gyd-gyweithas â'r eglwysi a бlannesid ganddo, a'i fod yn hyspys yn eu holl amgylchiadau. Arferent hwythau ofyn ei gynghor ym mhob rhwystr, megis y byddai yntau barod i'w haddysgu ar bob achos. Yn gyttun a'r bwriadau hyn, yr oedd gan yr apostol amcan dau-ddyblyg yn ysgrifennu: yn laf, diwygio pob afreolusrwydd yn eglwys Corinth; ac, yn ail, rhoddi atteb boddlonawl i holl holiadau ei ddisgyblion.

Ysgrifenwyd yr epistol hwn o Ephesus (nid o Philippi, fel y dywedir yn yr ol-ysgrifen ar ddiwedd yr epistol) oddeutu y flwyddyn 57, ar amser y Pasg. At yr wyl hon y cyfeiria geiriau yr apostol, Pen. v. 7. "Yr ydych ddilefeinllyd." Hynny yw, yr ydych yn cadw gwyl y bara croyw. Dywed hefyd yr arosai yn. Ephesus hyd y Sulgwyn; ac y mae y ddwy adnod hyn, trwy gydbwyso amgylchiadau yr apostol â'r hanes a gawn am dano mewn, leoedd braill, yn rhoddi cwbl sicrwydd ynghylch y lle a'r amser pryd yr ysgrifenwyd yr epistol.

(I'w barkau.)

[ocr errors]

BLWYDDYN NEWYDD.

ESA. Iv. 6.

"Ceisiwch yr Arglwydd, tra y galler ei gael ef; gelwch arno, tra fyddo yn agos.'

Y BENNOD hon sy'n dechreu gyda chyhoeddiad graslawn i holl feibion dynion i ddyfod a chyfranuogi o fendithion iachawdwriaeth. "O deuwch i'r dyfroedd, bob un y mae syched arno, ïe, yr hwn nid oes arian ganddo; deuwch, prynwch, a bwyttêwch; ïe, deuwch, prynwch win a llaeth, heb arian, ac heb werth." Bendithion yr Efengyl ydynt helaeth a rhad, fel y dyfroedd; etto y maent yn werthfawr, yn flasus, ac yn facthlawn, fel gwin a llaeth; y rhai sydd yn torri y syched, yn maethu y corph, ac yn bywiogi.yr ysprydoedd. Y mae gras Duw megis llaeth i rai bach, a gwin i ddynion nerthol. Ond, pa fodd y gellir cael y bendithion hyn?" Heb arian ac heb werth;" hynny yw, heb ddim teilyngdod na haeddiant o'r eiddom ein hunain: y maent yn cael eu rhoddi yn rhad i bawb sydd yn teimlo nad oes ganddynt ddim i'w roddi am danynt. Y maent tu hwnt i bob gwerth, yn rhy gostus i roddi gwerth arnynt;. ac, etto, nid all neb eu sicrhau iddo ei hun, a'u mwynhau, heb ymwrthod â'i holl bechodau, ai chwantau anwylaf, ymwadu âg ef ei hun, dwyn. ei groes beunydd, a dilyn Crist trwy anghlod a chlod. Nid oes dim yn ormod i roddi am danynt, na dim yn ddigon i dderbyn am danynt. Gwahodd pawb sydd yn sychedu am bardwn a gras, iddyfod at Dduw trwy Grist i'w ceisio: "Ceisiwch yr Arglwydd," &c.

Y mae Duw yn Nghrist yn cymmodi y byd ag ef ei hun." Trwyddo ef y mae yr Arglwydd i'w geisio, ac i'w gael, ar orsedd gras ac yn ei ordinhadau. Y mae yn agos at y rhai sydd yn clywed

Nid yw yr ol-ysgrifeniadau hyn bob amser yn gywir, yn ol barn gyffredinol y dysgedigion.

i

yr Efengyl, ac yn aml yn ymryson â'u calonnau trwy ei Lân Yspryd. Eithr gall yr Efengyl gael ei chymmeryd oddi arnom, neu fendith yr Yspryd, yr Arglwydd y Bywiawdwr," gael ei attal rhag by whau y moddion; neu gall yr enaid gael ei ofyn oddi arnom y flwyddyn hon, neu y nos hon; yna ni bydd yr Arglwydd bellach i'w gael, ni bydd yn agos: am hynny, "Ceisiwn yr Arglwydd, tra y galler ei gael ef; a galwn arno, tra fyddo yn agos."

"Yr annuwiol (medd y Salmydd) gan uchder ei ffroen, ni chais Dduw." Eisieu dyfnach argyhoeddiad o'n trueni a'n perygl ydyw yr achos ein bod mor ddiymgais am Dduw; canys nid rhaid i'r iach wrth feddyg. "Edrychodd Duw i lawr o'r nefoedd ar feibion dynion, i edrych a oedd neb yn ddeallus, ac yn ceisio Duw." Ac ar ol edrychjad manwl, y cafwyd, Ciliasai pob un o honynt yn wysg ei gefn: cyd-ymddifwynasant; nid oes a wnel ddaioni, nac oes un." Anneallus yw pob un nad ydyw yn ceisio, ac yn galw ar Dduw y mae allan o'i bwyll. A phan ddel, fel yr afradlon, atto ei hun, efe a ymwrola, am fyned at ei Dduw. Yrargoel gyntaf o ddeall da yn St. Paul oedd, pan ddywedwyd am dano," Wele y mae efe yn gweddïo." Anwybodaeth o honom ein hunain, ynghyd a llygredd ein calonnau, sydd yn peri i ni ymbellhau oddiwrth Dduw. Wedi ymddieithro oddiwrth Dduw trwy yr anwybodaeth sydd ynddynt, trwy ddallineb eu calonnau." Dywedodd yr annuwiol wrth Dduw, "Cilia oddi wrthym; canys nid ydym yn chwennych gwybod dy ffyrdd. Pa beth ydyw yr Hollalluog, fel y gwasanaethem ef? a pha fudd fydd i ni os gweddiwn arno?" Job 21. 14, 15. Dyma ydyw iaith calon Hawer un hyd heddyw, Onide, paham y maent mor ddiweddi yn eu hystafelloedd? palam mor ddiawydd i ddarllen y Bibt, ac mor anewyllysgar i ddechreu addoliad teuluaidd? Os parhawn i ddywedyd wrth Dduw yn ein calon a'n buchedd, cilia oddi wrthym, gall yntau yn gyfiawn ddywedyd wrthym ninnau yn awr angau a dydd y farn, “Ewch chwithau ymaith oddi wrthyf, rai melldigedig, i'r tân tragywyddol: nid adwaen chwi." Yr Iachawdwr trugarog a dry yn. Farnwr digllawn. Am hynny, "Ceisiwn yr Arglwydd," &c.

Ceisio yr Arglwydd sydd yn arwyddo, arferiad diwyd o holl ordinhadau yr Efengyl. Y mae yr Arglwydd yn arferol o weithio trwy y moddion a ordeiniodd ef ei hun, yn enwedig, gweddio yn enw ei Fab, gwrando, a darllen ei air. Ceisiwn yr Arglwydd yn ei dŷ, ac yn ei air. I ba le yr awn i ymorol am ryw un, ond i'w dy? Tŷ Dduw yw ei eglwys. Yma y trigaf; canys chwennychais hi." "Lle y bo dau neu dri wedi ymgynnull yn fy enw i, yno yr ydwyf yn eu canol hwynt."-Ond, pa bryd y mae i ni geisio a galw ar yr Arglwydd? "Tra y galler ei gael-tra fyddo yn agos." Yn awr yw yr amser cymmeradwy. Yn awr y mae yr Arglwydd i'w gael, yn awr y mae yn agos. Nid oes un addewid yn y Bibl y bydd i'w gael y fory. Heddyw yw dydd gras; y fory all fod yn ddydd y farn. Cafodd yr Iuddewon eu dydd gras, a naccasant geisio yr Arglwydd ynddo. "Pe gwybuasid dithau, ie, yn dy ddydd hwn, y pethau a berthynent i'th heddwch! eithr y maent yn awr yn guddiedig oddiwrth dy lygaid." Luc 19. 42. Oddiwrth siampi y lleidr ar y groes, ac amryw eraill, gallwn yn hŷf annog pechaduriaid o bob math ac oedran i geisio yr Arglwydd:-Chwi oedwyr pedwar ugain, y rhai sydd wedi penwynnu yn ngwasanaeth pechod, wedi cefnu ar Dduw holl ddyddiau eich

bywyd, wedi gwrthod gwrando ar holl wahoddiadau taerion y nef, a phigiadau eich cydwybod eich hunain, wedi ymgaledu mewn pechodi chwi y danfonwyd gair yr iachawdwriaeth hon: nid ydych etto ddim o gyrhaedd y drugaredd honno ag sydd yn achub ar yr unfed awr ar ddeg. Rhowch un cais etto i geisio yr Arglwydd, rhag mai o fewn y flwyddyn hon y byddwch farw. Gelwch arno heddyw, tra y gelwir hi heddyw. Paham nad ydyw y pethau sydd yn perthyn i'ch heddwe'r ddim etto yn guddiedig oddiwrth eich llygaid? paham yr estynnir eich dyddiau? paham y mae yr Arglwydd unwaith etto yn galw arnoch, oni bai fod yr Arglwydd i'w gael, yn disgwyl i drugarhau wrth y pechadur pennaf a hynaf?

Teuengetid sydd amser cymmeradwy i geisio yr Arglwydd. Y mae ad lewid bennodol i'r jeuaingc :-"Y sawl a'm ceisiant yn foreu, a'm cant." Llawer un ieuangc sydd, fel Ffelix, yn teimlo yr hyn a bregether, ac yn crynu; neu, megis Agrippa, o fewn ychydig wedi ei ennill i fod yn Gristion. Ar y cyfryw amseroedd y mae yr Arglwydd yn agos attynt. Neu, pan glywir am farwolaeth sydyn rhyw gyfaill, neu gymmydog, yna y dechreu ofnau ac ammheuon aflonyddu y fynwes, rhyw feddyliau dirgel yn dywedyd wrthynt nad ydyw eu calon ddim yn union ger bron Duw, ac nad ydynt yn barod i farw. Y pethau hyn sydd yn arwyddo, fod yr Arglwydd yn agos attynt, ac yn eu cymhell i'w geisio. Wrth oedi ei geisio yn awr, y mae y perygl o'i golli dros byth yn ychwanegu. Cofia yn awr dy Greawdwr yn nyddiau dy ieuengetid." Yr ydych yn disgwyl y bydd ef mor agos attoch, ac mor hawdd i'w gael ym mhen deugain mlynedd ag ydyw yn awr: eithr nid oes addewid y byddwch fyw i weled diwedd y flwyddyn hon. Y cwbl a addawodd Duw ydyw, "Yn awr yw yr amser cymmeradwy." "Fy mab (medd Duw) moes i mi dy galon.' Am hynny, garedigion ieuainge, rhowch eich calon iddo ef yn ddioed ac yn ddinag; canys rhoddwr llawen, ie, rhoddwr ieuange hefyd, y mae Duw yn ei garu. Os gwrthodwch ei rhoddi ar ddechreu blwyddyn newydd, fe allai y cymmer Satan feddiant o honi, a'i gwneud yn ogof lladron hyd ddiwedd eich oes.

66

"Pan

Adfyd sydd dymhor cymmeradwy i geisio yr Arglwydd. fyddo adfyd arnynt y'm bore-geisiant." Hos. 5. 15. Yr Arglwydd sydd yn gweled ein diofalwch, mor esmwyth a boddlon y medrwn fyw heb ei geisio, na galw arno; cyhyd ag y bydd gennym gysuron daearol i'n difyrru. Yna y gesyd ef ei wïalen arnom, ac a ymwel â'n camweddau a ffrewyllau. A oes neb mewn adfyd? y mae Duw yn ymweled â chwi; y mae yn agos attoch: ceisiwch ef, a chwi a'i cewch ef yn noddfa yn amser trallod. A ydych chwi wedi colli cyfaill? Ceisiwch, a chwi a gewch Dduw yn gyfaill yn ei le. A ydyw blinder a thrallod yn eich amgylchu? Ceisiwch ef etto yn daerach, a chwi a'i cewch yn Dduw pob diddanwch, ac yn gymmorth hawdd i'w gael mewn cyfyngder."

Hawddfyd sydd dymhor arall. Os ydych yn mwynhau iechyd parhaus; os bendithiodd Duw chwi a theuluoedd caredig, a phlant graslawn; os cawsoch eich bendithio â llwyddiant yn eich maes a'ch masnach-yr holl bethau hyn ydynt dystion tros Dduw, ac yn eich annog i'w geisio a galw arno. Daioni Duw a ddylai eich tywys į

edifeirwch.

Y Sabbath sydd dymhor arall i'w geisio. Lle bynnag y mag

« AnteriorContinuar »